Gwarchod Ecosystemau Morwellt
Gwybodaeth am Seagrass Network Cymru
Mae Seagrass Network Cymru (SNC) yn blatfform cydweithredol sy’n darparu llais unedig i sicrhau dyfodol i forwellt yng Nghymru.
Rhwydwaith o sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb mewn gwarchod ac adfer morwellt yng Nghymru yw SNC. Mae'n cynnwys cyrff anllywodraethol, academyddion, asiantaethau'r llywodraeth a rheoli, a'r sector preifat.
Gweithia’r rhwydwaith i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o werth dolydd morwellt ar draws Cymru. Mae’n rhannu gwybodaeth arbenigol, ac yn ysgogi camau gweithredu cydgysylltiedig i gefnogi amddiffyn a gwella dolydd morwellt Cymru i’r dyfodol trwy well gwyddoniaeth, monitro, rheolaeth ac addysg.
Ein Gwaith
Mae Seagrass Network Cymru yn hwyluso cydweithio, rhannu data a gwybodaeth, a gwell monitro, rheolaeth ac addysg trwy weithredu cydgysylltiedig ar draws yr aelodau.
Helpa’r rhwydwaith i ddangos i’r cyhoedd yn gyffredinol yr holl fanteision y mae morwellt yn ei ddarparu, gan ddefnyddio llais cydgysylltiedig ac unedig.