Rheolaeth Ardaleodd Cadwraeth Arbennig Morol Sir Benfro: Parthau gwarchod cynefinoedd sensitif dyfrffordd Aberdaugleddau

Disgrifiad

Datblygwyd y parthau gwarchod cynefinoedd sensitif gwirfoddol gyda’r nod o warchod y morwellt a’r gwelyau gwymon maerl o fewn y Ddyfrffordd rhag gweithgarwch angori a llongau wrth eu hangor.

Er mwyn darparu cyfleuster fel dewis arall i angori, mae Porthladd Aberdaugleddau yn darparu ac yn cynnal dau fwi angori ar gyfer ‘ymwelwyr dydd’ ym Mae Longoar sy’n angorfa gysgodol boblogaidd. Gosodwyd y rhain yn 2015. Mae’r ddôl morwellt yma’n fach ac yn dameidiog ac yn rhan ddeheuol y bae.

Gweithia’r Porthladd gyda Swyddog Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Morol Sir Benfro a Phrosiect Morwellt i godi ymwybyddiaeth a gofalu am forwellt o fewn y ddyfrffordd. Yn flynyddol, caiff taflen wybodaeth morwellt ei hanfon at bob deiliad angorfa o fewn y ddyfrffordd.

We value your privacy

We use cookies to enhance your browsing experience, serve personalised ads or content, and analyse our traffic. By clicking "Accept", you consent to our use of cookies.