ReSOW (Adfer Morwellt ar gyfer Cyfoeth y Cefnfor)
Manylion Prosiect
ReSOW – Mae Adfer Morwellt ar gyfer Cyfoeth y Cefnfor yn brosiect amlddisgyblaethol sy’n bwriadu defnyddio dull cyfannol, seiliedig ar systemau, sy’n integreiddio dealltwriaeth o weithrediad amgylcheddol â blaenoriaethau amrywiol y rhai sy’n defnyddio, neu’n elwa ar, yr arfordir.
Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod yr angen am atebion sy’n seiliedig ar natur i newid yn yr hinsawdd fel rhan o darged y DU o gyrraedd allyriadau Sero Net erbyn 2050.
Mae dolydd morwellt yn creu storfa hynod effeithlon a hirdymor o garbon yn eu gwaddodion morol ac yn darparu cynefin i ystod eang o rywogaethau a gwella bioamrywiaeth. Mae eu hadfer yn caniatáu iddynt gyfrannu'n allweddol at yr atebion hyn.
Y canlyniad terfynol yw cynhyrchu’r offeryn ‘Cymorth i Benderfyniadau Gwella Ecosystemau Arfordirol’ neu CEEDS a fydd yn helpu i hysbysu rhanddeiliaid am y lleoliadau gorau i adfer morwellt.
Lleoliadau
Mae aelodau tîm ReSOW wedi'u lleoli yn y mannau yma
Lleolir safleoedd astudiaeth achos (ardaloedd) ym Mhorthdinllaen, Aberdaugleddau, Craignish, Studland Bay, Solent, Ynysoedd Scilly, Ynysoedd Orkney.
Ceir rhagor o fanylion am yr astudiaethau achos yma: https://resow.uk/study-locations
Partneriaid
- Prosiect Morwellt
- Natural England
- Marine Management Organisation
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Asiantaeth yr Amgylchedd
- Global Ocean Accounts Partnership
- Coastal Communities Network Scotland