Adfer De a Gorllewin Cymru
Manylion y Prosiect
Mae’r Prosiect Morwellt yn archwilio’r potensial ar gyfer adfer morwellt yn ardaloedd Llanelli a Chaerdydd, gyda chefnogaeth Swyddogion ACA - Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Sir Benfro, Baeau ac Aberoedd Sir Gaerfyrddin, ac Aber Afon Hafren.
Mae'r prosiect hwn yn un o'r rhai cyntaf yng Nghymru i dreialu cyd-adfer gwellt y gamlas Zostera marina a chorwellt y gamlas Nanozostera noltei. Bydd dulliau adfer seiliedig ar hadau a thrawsblannu yn cael eu treialu, ar raddfa fach. Yna bydd y treialon plannu yn cael eu monitro'n rheolaidd gan y tîm i gymharu cyfraddau llwyddiant gwahanol ddulliau.
Adeilada’r proiect hwn ar waith adfer llwyddiannus ym Mae Dale, ail-hadu'r ardal adfer a threialu trawsblaniadau yn y safleoedd. Mae'r prosiect ar hyn o bryd yn ymgysylltu â chymunedau ar draws pob safle, gan rannu cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad a mewnbwn.
Lleoliadau
- Llanelli
- Caerdydd
- Dale
Partneriaid
- Prosiect Morwellt
- Baeau ac Aberoedd Caerfyrddin - Swyddog Safle
- Partneriaeth Môr Hafren a Swyddog Safle Morol Ewropeaidd
- Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro - Swyddog