Seagrass Network Cymru yn cyflwyno Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol i Senedd Cymru
Yng Ngorffennaf 2024 cyflwynodd Seagrass Network Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol i’r Senedd.
Mae dolydd morwellt yn gynghreiriaid hollbwysig i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth yn fyd-eang. Mae’r Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol yn ymateb uniongyrchol i gyflwr presennol cynefinoedd morwellt yng Nghymru a’r angen am ddull cydgysylltiedig o gyflawni yn erbyn ymrwymiadau polisi cyfredol.
Mae gan Gymru gyfle i arwain y ffordd o ran adfer morwellt. Mae’r cynllun yn cyflwyno glasbrint o gamau gweithredu dros y pum mlynedd nesaf i gyflawni gweledigaeth lle mae dolydd morwellt Cymru yn cefnogi bioamrywiaeth forol, cymunedau bywiog, economi gynaliadwy, ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at yr ymateb brys i hinsawdd.
Dyma’r 4 maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu sydd eu hangen i gyflawni’r weledigaeth hon:
● Mapio morwellt Cymru
● Adeiladu partneriaethau ar draws y tir a’r môr
● Atal colli morwellt
● Gwrthdroi colled morwellt
Mae Seagrass Network Cymru yn grŵp cydweithredol o gyrff anllywodraethol, academyddion, busnesau masnachol, y llywodraeth, ac asiantaethau rheoli o bob rhan o Gymru sy’n gweithio tuag at ddiogelu ac adfer dolydd morwellt ar hyd arfordir Cymru.