Beth yw morwellt?
Planhigyn blodeuol morol yw morwellt sy'n ffurfio dolydd tanddwr trwchus mewn ardaloedd bas, cysgodol ein harfordir.
Yn wahanol i wymon, mae gan forwellt wreiddiau, blodau a dail, yn union fel planhigyn daearol. Mae planhigion morwellt unigol yn ymledu ar draws wely’r môr i greu dôl morwellt, sef cynefin cynhyrchiol gyda nifer o fanteision i bobl a’r blaned.
Mae dwy rywogaeth o forwellt yng Nghymru (a gweddill y DU). Mae un rhywogaeth sef y Zostera marina yn gyffredinol yn tyfu'n islanwol (bob amser wedi'i orchuddio â dŵr) ac mae'r rhywogaeth arall a elwir yn Nanozostera noltei yn llai ac yn tyfu'n rhynglanwol, (nid bob amser wedi'i orchuddio â dŵr, lle mae llanw a thrai.
Mae dolydd morwellt iach yn cynnal bioamrywiaeth uchel, yn darparu meithrinfeydd ar gyfer pysgod, yn dal a storio carbon, yn amddiffyn ein harfordiroedd rhag erydiad, ac yn hidlo llygryddion.
Maent yn arf hanfodol yn y frwydr yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd, bioamrywiaeth a bwyd y mae dynoliaeth yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
Gwerth Morwellt Cymreig
Mae dolydd morwellt yn chwarae rhan hanfodol wrth gadw ein cefnforoedd yn iach ac yn llawn bwyd.
Dengys ymchwil yng Nghymru bod cynefinoedd morwellt yn cynnwys pedair gwaith y nifer o bysgod mewn cynefinoedd heb lystyfiant, gan ddarparu silfeydd, meithrinfeydd a mannau bwydo i gefnogi pysgodfeydd masnachol pwysig. Gall un hectar o forwellt gynnal cymaint â 4,700 yn fwy o bysgod a 28 miliwn yn fwy o infertebratau na chynefinoedd heb lystyfiant.
Mae dolydd morwellt hefyd yn darparu cyfres o wasanaethau ecosystem gwerthfawr eraill megis amddiffyn eiddo a thraethau rhag erydu arfordirol a symud gwaddodion, yn ogystal â gwella amddiffynfeydd arfordirol trwy leihau effaith y tonnau. O ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, rhagwelir y bydd amlder a dwyster stormydd o amgylch arfordir Cymru yn cynyddu; mae colli dolydd morwellt o bosibl wedi golygu bod ardaloedd arfordirol yn agored i ddifrod gan y stormydd.
Gall morwellt hefyd warchod asideiddio cefnforol, gan gyfrannu at gryfder rhywogaethau ac ecosystemau bregus (e.e. cocos, y cregyn moch mwyaf).
Mae dolydd morwellt yn gwella ansawdd dŵr (gan ddileu llygryddion a bacteria o'r golofn ddŵr, gan gynnwys nitrogen) a thrwy hynny o fudd i bobl leol ac ymwelwyr. Mae’r gwasanaethau ecosystem a ddarperir gan forwellt felly yn gymorth pwysig i sectorau economaidd morol, megis twristiaeth a physgodfeydd.
Pam fod morwellt yn bwysig yng Nghymru?
- Mae’n darparu meithrinfa ar gyfer pysgod, gan gynnwys rhywogaethau masnachol.
- Mae’n darparu cynefin a lloches i gyfoeth o rywogaethau, a chefnogi bioamrywiaeth.
- Mae’n gwella ansawdd dŵr, cefnogi bywyd gwyllt a thwristiaeth.
- Mae’n diogelu eiddo a thraethau rhag erydu arfordirol a gwaddodion symudol
- Mse’n gwella amddiffynfeydd arfordirol trwy wanhau effaith y tonnau.
- Mae’n storio carbon.
Diogelu Morwellt Yng Nghymru
I gydnabod eu pwysigrwydd ecolegol ac economaidd, mae dolydd morwellt yn cael eu hamddiffyn fesul amrywiaeth o ddeddfwriaethau a pholisïau cadwraeth.
Maent wedi'u cynnwys mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ar draws Cymru, ac wedi'u nodi fel rhywogaethau Adran 7 yn Neddf yr Amgylchedd. Maent hefyd wedi'u cynnwys o fewn nodweddion rhai Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSIA) yng Nghymru.
Er eu bod wedi’u diogelu’n dda yn gyfreithiol, mae bygythiadau gan ffactorau sy’n achosi straen megis ansawdd dŵr gwael, angori cychod, a phalu am abwyd yn dal heb eu rheoli ac yn fygythiad sylweddol i’r morwellt Cymreig sy’n weddill.
Dros y 100 mlynedd diwethaf, mae’r DU wedi colli hyd at 92% o gynefin morwellt oherwydd datblygiad arfordirol, llygredd, pysgota a gweithgareddau dŵr, gyda cholled helaeth yng Nghymru.